Gwerthoedd

Yn eglwys y plwyf, rydym yn ceisio gwasanaethu Duw yn ein bywydau bob dydd, ac amlygu cariad Crist i bawb.

Mae ein hegwyddorion yn dylanwadu ar yr hyn a wnawn, ac mae’r rhain yn seiliedig ar ein credoau. Yr hyn rydym yn ei gredu am Dduw – ei gymeriad, ei natur – sy’n ffurfio’n gwerthoedd. Mae nifer o adrannau yn y Beibl sy’n disgrifio’r modd y dylem fyw. Dyma ddwy enghraifft:

…beth…a gais yr Arglwydd gennyt: dim ond gwneud beth sy’n iawn, caru ffyddlondeb a rhodio’n ostyngedig gyda’th Dduw
(Micah 6.8)

Ffrwyth yr ysbryd yw cariad, llawenydd, tangefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanddisgyblaeth
(Galatiaid 5.20)

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen y detholiad hynod hwn o Efengyl Mathew, sef y Bregeth ar y Mynydd, yn llyfr Mathew penodau 5-7. Y dywediadau hyn gan Iesu yw rhai o’r cysyniadau mwyaf chwyldroadol a ysgrifennwyd erioed.

Fel aelodau o’r Eglwys yng Nghymru, rydym yn credu ac yn datgan Newyddion Da Iesu Grist, sef:

  • fod Duw yn weithredol ac yn bersonol, yn Dad sy’n gofalu am ei greadigaeth, ac am bob un o’r hil ddynol fel ei blentyn annwyl;
  • bod Duw wedi ei ddatguddio’i hun ym mherson hanesyddol Iesu Grist, a
  • thrwy fywyd, marwolaeth ac atgyfodiad yr un person hwn, fod Duw wedi datgan ei gariad tuag at y byd, ac wedi dangos sut y gallwn, drwy ymateb mewn ffydd, ganiatáu i’w gariad a’i fywyd dreiddio i’n bywydau.
  • bod Duw ar waith yn y byd heddiw, fel Ysbryd, yn ysgogi ffydd, cyfiawnder a gwirionedd
  • ein bod yn credu fod Duw wedi galw ar bawb sy’n ymateb iddo i fod yn bobl iddo, ac i weithio gyda’i gilydd fel llysgenhadon i’w waith o iacháu yn y byd.

Mae hyn yn Newyddion Da, gan ei fod yn annog pob un ohonom i sylweddoli bod Duw yn ein caru ni, ei fod ymdrechu i gwrdd â ni ym mherson ei Fab, a thrwyddo ef yn ein derbyn fel ag yr ydym. Mae’n gofyn i ni ddefnyddio ei nerth i fyw bywyd hyd yr eithaf, ac i ddod ag iachâd i’r byd. Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni i rannu’r Newyddion Da hwn.