Cefnogwch ni

Ymunwch â ni

Mae croeso i chi ymuno ag unrhyw un o’r gweithgareddau – dewch i un o’n gwasanaethau, dewch i weithio yn y fynwent, dewch i helpu yn sesiynau Llan Llanast neu ymunwch ag unrhyw beth sy’n mynd â’ch bryd. Galwch heibio – cewch groeso cynnes.

Adnewyddu’r eglwys

Mae’r gwaith o adnewyddu’r eglwys wedi dechrau a byddem yn falch o unrhyw gyfraniad neu sylwadau. Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw drwy lenwi ffurflen ar yr hysbysfwrdd yn yr eglwys, neu siaradwch ag un o’r wardeiniaid.

Cefnogi’r eglwys

Rydym bob amser yn falch o gael gwirfoddolwyr i helpu gyda’r gweithgareddau. Mae cymorth ariannol hefyd yn hanfodol – caiff gwaith eglwys y plwyf ei ariannu bron yn gyfangwbl drwy roddion gan yr aelodau. Os hoffech gyfrannu’n ariannol, defnyddiwch un o’r amlenni sydd i’w cael yng nghefn yr eglwys, gan wneud yn siŵr eich bod yn llenwi’r datganiad Cymorth Rhodd er mwyn i’r eglwys fedru hawlio’r Cymorth Rhodd yn ôl. Neu ewch i’r dudalen Rhoddion Ariannol – gweler yr Hafan.