Rhoddion Ariannol

Cyfrannu at yr eglwys

Ariennir gweithgareddau beunyddiol Eglws y Plwyf Llanelwy trwy roi yn rheolaith gan aelodau’r eglwys. Mae hyn yn talu costau rehdeg yr eglwys (trydan, Gwres, goleuadau ac atgyweiriadau), talu’r clerigwyr, a darparu’r adnoddau a ddefnydddir mewn gwasanaethau. Mae enghreifftiau o weithgareddau eglwysig sy’n canolbwyntio ar y gymuned yn cynnwys darparu gofal bugeiliol yn y gymuned; cefnogaeth profedigaeth; gweithio i bobl sy’n byw gyda dementia; cefnogaeth i blant a’u rhieni neu ofalwyr trwy ‘Messy Church’ a Chlybiau Gwyliau; cydweithio a’n hysgolion lleol, ac awdurdoday lleol.

Fodd bynnag, mae llawer o brosiectau eraill yn yr eglwys yn cael eu hariannu ar wahân trwy grantiau, cymynroddion, rhoddion a digwyddiadau codi arian. Un prosiect o’r fath yw adnewyddiad mewnol cyfredol a mawr yr eglwys sy’n ceisio ei moderneiddio a thrwy hynny alluogi adeilad yr eglwys i barhau yn ei brif rôl fel Eglwys y Plwyf, wrth gynyddu a gwella ei chyfleusterau i ddiwallu angheinion niferus yr ardal; creu canolbwynt canolog i’r gymuned y mae’n ei gwasanaethu.

Hoffem drefnu rhagor o ddigwyddiadau a gwasanaethau i’n cymuned yn Llanelwy, ond nid oes pwll diwaelod o arian, ac mae’r cynnydd ym mhris tanwydd yn effeithio arnom i gyd. Dyma pam y byddai unrhyw rodd y teimlwch y gallech ei gynnig i ni’n cael ei ddefnyddio’n ofalus ac y byddai’n bendant yn gwneud gwahaniaeth.

Dulliau gwahanol o gyfrannu: 

Gallwch gyfrannu at y casgliad yn y gwasanaethau ar y Sul. Dyma’r ffordd draddodiadol o gyfrannu at yr eglwys, ond mae cyfyngiadau ynghlwm wrthi. I adennill Cymorth Rhodd, byddai angen i chi roi’ch manylion ar amlen bob wythnos.

Gallwch drefnu i gyfrannu at yr eglwys drwy archeb sefydlog. Mae hyn yn haws i’r eglwys mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, mae’n rhoi incwm rheolaidd i’r eglwys p’un a fyddwch yn mynd i’r eglwys bob wythnos ai peidio. Yn ail, mae’n bosibl casglu Cymorth Rhodd, os ydych yn gymwys, sy’n rhoi 25% ychwanegol i’r eglwys drwy adennill treth. Os hoffech gyfrannu drwy archeb sefydlog, gallwch lawrlwytho’r ffurflen berthnasol a’i hanfon at y trysorydd. Mae ei fanylion i’w gweld ar y ffurflen.  Ffurflen Archeb Sefydlog

Gallwch roi un cyfraniad drwy ysgrifennu siec. Dylech anfon hon at Drysorydd Eglwys y Plwyf, Llanelwy, d/o Swyddfa’r Esgobaeth, Stryd Fawr, Llanelwy, LL17 0RD a’i gwneud yn daladwy i Eglwys y Plwyf, Llanelwy.

Gallwch gyfrannu ar-lein drwy glicio ar Rhoddion Unigol neu Rhoddion Rheolaidd o dan Dulliau o Gyfrannu (gweler isod). Os ydych am i ni ddefnyddio’ch arian mewn ffordd benodol, nodwch hynny’n glir yn yr adran Manylion ar y dudalen y cewch eich cyfeirio ati i gyfrannu drwy nodi “Adnewyddu” (ailwampio neu addasu’r eglwys) neu ‘Cronfeydd cyffredinol yr eglwys”.

Gallwch gyfrannu drwy adael cymynrodd yn eich ewyllys. Ar ôl darparu ar gyfer eich anwyliaid, efallai y gallech adael cymynrodd i’r eglwys. Un o’r dulliau mwyaf gwerthfawr a pharhaol o gefnogi gwaith yr eglwys yw drwy adael rhodd i’r eglwys yn eich ewyllys. Gallwch drafod hyn â’ch teulu a’ch cyfreithiwr pan fyddwch yn ysgrifennu’ch ewyllys. Mae taflenni gwybodaeth ar gael gan Swyddfeydd yr Esgobaeth neu ar y stondin daflenni yn yr eglwys.

Rhoi o’ch amser.

Os na allwch gyfrannu’n ariannol, efallai y gallech roi o’ch amser a helpu gyda gweithgareddau’r eglwys, fel cynnal a chadw, glanhau, helpu gyda sesiynau Llan Llanast neu ddigwyddiadau ‘Forget-Me-Not’, neu ddigwyddiadau codi arian. Os felly, cysylltwch ag un o wardeiniaid yr eglwys (ewch i dudalen Pwy ydym ni), a gallwn roi manylion cysylltu’r bobl berthnasol i chi. Amser yw un o’r adnoddau pwysicaf!

Dulliau o Gyfrannu:

Rydym wedi cofrestru â Stewardship, sydd wedi sefydlu cronfa gymorth i’n gweinidogaeth. Gallwch ein helpu ni drwy gyfrannu at ein cronfa drwy gyfrwng Stewardship . Os yw’n berthnasol, gallwch gynyddu gwerth eich cyfraniad drwy ddefnyddio Cymorth Rhodd (gwerth 25% os ydych yn talu trethi yn y DU).