Hanes

Ers dros 800 o flynyddoedd, mae pobl wedi bod yn dod i’r lle sanctaidd hwn i addoli Duw ac i gwrdd â’i gilydd. Mae eglwys ganoloesol, hanesyddol plwyf Llanelwy, neu Eglwys Sant Cynderyn a Sant Asa, fel y’i gelwir hefyd, ym mhen isaf y Stryd Fawr yn Llanelwy. Yn ôl y sôn, sefydlwyd yr eglwys tua 560 OC gan Sant Cyndeyrn, a chafodd ei chysegru i Sant Asa hefyd yn ddiweddarach, yng nghanol y ddeuddegfed ganrif. O’r safle hwn y tyfodd y plwyf. Mae cysegriad, lleoliad a morffoleg y fynwent yn nodweddiadol o sefydliad canoloesol cynnar.

Sant Cynderyn (enw arall arno oedd Mungo). Ganed 518 OC, bu farw 603 OC. Rhieni: Owain mab Urien, Teneu.

Fel nifer o eglwysi Dyffryn Clwyd, mae’r adeilad yn cynnwys dau gorff cyfochrog ac arcêd rhyngddynt. Adeiladwyd yr eglwys yn wreiddiol yn y drydedd ganrif ar ddeg; mae cofnod ohoni hi a’r gadeirlan yn Llyfr Treth Norwich yn 1254, ond caiff ei chofnodi ar wahân yn Llyfr Treth Lincoln 1291. Mae adeiladwaith cynharaf yr eglwys yn dyddio o’r ganrif hon.

Adeiladwyd yr eglwys i wasanaethu’r plwyf, ond mae’n debyg ei bod yn sefyll ar safle’r fam eglwys cyn y Goncwest Normanaidd. Y gred yw bod yr Eglwys wedi’i hailadeiladu ar yr hen sylfeini ym 1524 a, bryd hynny, gosodwyd ffenestri newydd a defnyddiwyd y trawstiau gordd trawiadol i ail-doi’r adeilad. Mae arysgrif dyddiedig 1614 ar ffenestr y gangell yn dangos bod y corff deheuol wedi’i ailadeiladu bryd hynny; mae’r holl ffenestri gwydr lliw eraill yn dyddio o oes Fictoria.

Ffenestr Chancel
Ffenestr gwydr lliw ar wal orllewinol y corff deheuol. Mae’r holl ffenestri gwydr lliw eraill yn dyddio o oes Fictoria

Ychwanegwyd y corff gogleddol rywdro yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg (nid yw’r union ddyddiad wedi’i gofnodi); to trawstiau gordd sydd uwchben hwn hefyd. Bu’n rhaid ailadeiladu’r porth deheuol oherwydd difrod yn dilyn stormydd rhwng 1629 a 1630 ac, ym 1687 cafodd drws ei osod ar yr ochr ddeheuol. Mae’r drysau mewnol yn dyddio o’r cyfnod hwn ac arnynt mae’r arysgrif  – 1687 RR RI SI EI. Mae’n debyg mai dyma lythrennau cyntaf enwau’r dynion a fu’n gweithio yma.

Cafodd y porth, y glochlofft a’r festri bresennol eu hychwanegu ym 1872 dan gyfarwyddyd Syr George Gilbert Scott, prif bensaer yr adfywiad Gothig a phensaer deon a chabidwl Abaty San Steffan.

Yn ystod 1830, symudwyd organ o’r gadeirlan leol i’r eglwys, ond rhoddwyd yr organ hon i eglwys Llanynys ym 1901 a gosodwyd organ o eglwys Llanrhaeadr yn ei lle. Mae hi yma o hyd ac yn gweithio’n dda; mae ei thonau soniarus i’w clywed bob dydd Sul yn ystod y gwasanaethau.

Mae’r fynwent amlonglog, daclus yn ymestyn tua’r de lle mae golygfa dda o’r eglwys; collwyd rhan o’r fynwent er mwyn lledu’r ffordd ym 1960. Ni chladdwyd neb yn y fynwent ers 1871. Bu’n rhaid symud y cofebau ar adegau amrywiol er mwyn adeiladu’r priffyrdd cyfagos ac mae llawer ohonynt wedi’u gosod ar hyd ymyl y fynwent a’r llwybrau. (CPAT 16955).

Mae nifer o’r cerrig beddi’n dyddio o’r cyfnod rhwng yr ail ganrif ar bymtheg a’r nawfed ganrif ar bymtheg. Carreg fedd Siôn Tudur, y bardd o Wigfair, yw’r gynharaf ac mae’n dangos iddo gael ei gladdu yn y fynwent ar 5 Ebrill 1602. Roedd Siôn Tudur yn berchennog tir o linach Llywarch Howlbwrch, a threuliodd gyfnod yn y llys yn Llundain yn gyfrifol am warchod y Frenhines Elizabeth (http://yba.llgc.org.uk/ên/s-SION-TUD-1522.html).

Dic Aberdaron (Richard Robert Jones, 1780-1843)

Yng nghornel de-orllewinol y fynwent mae bedd Dic Aberdaron (Richard Robert Jones 1780-1843) yr ysgolhaig, yr amlieithydd a’r crwydryn enigmatig a oedd, yn ôl y sôn, yn siarad 15 o ieithoedd ac a dreuliodd flwyddyn rhwng 1831 a 1832 yn ysgrifennu ei eiriadur Cymraeg – Groeg –  Hebraeg

Y cloc haul ym mynwent y de

Mae cloc haul i’w weld ym mynwent y de. Sylfaen sgwâr sydd i’r cloc ac mae’n sefyll ar goes gron 1.2m o hyd sy’n meinhau’n raddol. Yn Rhestr Adeiladau Rhestredig 1987, honnir y gallai darddu o’r unfed ganrif ar bymtheg.

Mae cofnod o’r rhai sydd wedi’u claddu yn y fynwent hon ac ym mynwent y Llwyn, yn cael ei gadw yn eglwys y plwyf.

Gallwch ddarganfod mwy am y fynwent yma: Mount Road Cemetery – Cymraeg(1)