Beth rydym ni’n ei wneud

Other activities

Byddwn yn cynnal sesiwn Llan Llanast bob dydd Mercher yn ystod gwyliau’r ysgol a hynny rhwng 10.30am a 12.30pm. Mae’n sesiwn gyffrous i blant hyd at 11 oed, lle gallant fwynhau gemau, crefftau, canu ac actio ac, wrth gwrs, cânt damaid iach i’w fwyta. Mae hefyd yn lle da i famau gymdeithasu a chyfarfod â ffrindiau newydd tra bydd eu plant yn dysgu drwy chwarae a chymryd rhan sesiynau gwaith llaw. Yn anad dim, mae’n gyfle i bawb fwynhau eu hunain, a’r cyfan am £1.00 y plentyn yn unig.

  • Yn ystod yr Wythnos Sanctaidd, caiff sesiwn Llan Llanast ei gynnal bron bob dydd – darllenwch y dudalen ‘Newyddion’.
  • rŵp trafod

Bydd grŵp yn cyfarfod gyda’r nos, unwaith yr wythnos yn ystod y tymor, a hynny yn Llanelwy. Yn ystod y cyfarfod, bydd astudiaeth feiblaidd a thrafodaeth ar yr ymateb Cristnogol i’r problemau rydym i gyd yn eu hwynebu. Caiff y cyfarfod ei gynnal fel arfer rhwng 7.30pm a 9pm. Holwch un o wardeiniaid yr eglwys i gael rhagor o wybodaeth – mae croeso bob amser i aelodau newydd.

  • Grŵp gweddi.

Caiff hyn ei gynnal yn yr eglwys bob dydd Iau am 11.00am. Mae croeso i bawb ddod draw wrth i ni geisio dirnad ewyllys Duw.

Grwpiau astudio’r Grawys.

Yn ystod y Grawys, byddwn yn cynnal cyfarfodydd bob wythnos i ystyried themâu penodol ym mywyd Cristnogion. Mae’r manylion ar hysbysfwrdd yr eglwys neu yn yr adran digwyddiadau arbennig.

  • Cinio’r plwyf.

Bydd cinio Sul i’r plwyf bob mis yng ngwesty Boderw Llanelwy. Byddwn yn ymuno â chynulleidfa’r Gadeirlan i fwynhau pryd o fwyd, i gyfarfod â ffrindiau newydd ac i roi’r byd yn ei le!

  • Grŵp y baneri.

Mae grŵp y baneri yn cyfarfod bob dydd Llun rhwng 10.30am a 12.30pm ac mae’r aelodau’n brysur iawn yn dylunio a gwneud baneri ar gyfer yr eglwys. Mae’r manylion i’w gweld ar hysbysfwrdd yr eglwys/taflenni. Nid oes angen unrhyw brofiad penodol o wnïo, dim ond brwdfrydedd ac, weithiau, cryn dipyn o allu i ganolbwyntio, fel y gwelwch yma!

Dyma ddetholiad o’r baneri a wnaed ac sy’n hongian yn yr eglwys yn ystod y tymor perthnasol. Mae’r gwaith yn dal i fynd rhagddo, ac mae nifer o faneri eraill yn yr arfaeth.

Dyma rai o’r baneri; maent i’w gweld yn yr ‘Oriel’.

  • Grŵp gwau

Rydym newydd ddechrau grŵp gwau, sy’n cyfarfod bob dydd Llun yn yr eglwys rhwng 10.30am a 12.30pm. Mae’r grŵp yn gwau ac yn dosbarthu eitemau i elusennau ac, ar hyn o bryd, maent yn cynhyrchu eitemau i’r rhai sy’n byw â dementia. Nid dim ond grŵp gwau yw hwn, mae’n gyfle i sgwrsio, i gwrdd ag eraill ac i fwynhau paned. Dewch draw, byddai’n braf eich gweld chi.

  • Cribyn a chacen

Bydd grŵp yn cyfarfod gyda’r nos bob ychydig fisoedd i gynnal a chadw’r fynwent, ac yna i fwynhau paned a chacen. Mae hyn yn ychwanegol i’r gwaith rheolaidd o dacluso a thorri’r glaswellt. Mae’r manylion i’w gweld ar hysbysfwrdd yr eglwys neu yn yr adran digwyddiadau arbennig.

  • Grŵp Mynwent y Llwyn

Cyfrifoldeb eglwys y plwyf yw gofalu am hen fynwent Llanelwy. Rydym yn cadw defaid Hebridëaidd yno i bori’r glaswellt. Bydd criw yn cyfarfod i weithio yno bedair gwaith y flwyddyn, ar fore dydd Sadwrn – ac mae croeso i bawb. Byddwn hefyd yn cael paned, cacen a sgwrs. Mae’r dyddiadau i’w gweld yn St Asaph City Times, yn yr adran digwyddiadau arbennig ac ar hysbysfwrdd yr eglwys. Cysylltwch â Duncan Cameron ar 01745 583770 i gael y manylion.

Mae manylion y rhai sydd wedi’u claddu ym mynwent y Llwyn yn cael eu cadw mewn ffolder werdd yn yr eglwys, ac maent hefyd ar gael ar-lein ar wefan Dinas Llanelwy.

  • Taith Pererin Gogledd Cymru
    Mae aelodau’r gadeirlan ac eglwys y plwyf wedi bod yn rhan allweddol o’r gwaith o adeiladu llwybr newydd ar draws y Gogledd, yn dilyn hen lwybr y pererinion draw i benrhyn Llŷn ac ymlaen i Ynys Enlli, gan fynd heibio i Lanelwy. Dros gyfnod o bythefnos yn ystod yr haf bob blwyddyn, bydd aelodau’n cerdded ar hyd y llwybr, sy’n 134 milltir o hyd. Mae’n brofiad sy’n eich bywiocáu, eich herio a’ch adfywio, ac mae croeso i bawb ymuno yn y daith gyfan, neu ran ohoni – os hoffech ragor o wybodaeth, ewch i http://www.pilgrims-way-north-wales.org/
Llwybr Taith Pererin Gogledd Cymru
  • Gweithio gydag ysgolion

Bydd ein clerigwyr a’n haelodau lleyg yn ymweld yn rheolaidd â’r ddwy ysgol gynradd leol, a bydd y disgyblion yn cael eu hannog i ymuno â gweithgareddau’r ysgol. Bydd disgyblion Ysgol Iau Esgob Morgan a’r Ysgol Babanod Llanelwy yn dod i’r Gadeirlan bob mis a hefyd yn dod i eglwys y plwyf i gynnal gwasanaethau diwedd tymor.

Ysgol Babanod Llanelwy

Ysgol Esgob Morgan, St Asaph