Diogelu

CYDRADDOLDEB ac AMRYWIAETH

Polisi’r Eglwys yng Nghymru yw hyrwyddo diwylliant o urddas, parch a thegwch i’w holl aelodau. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod doniau, talentau a galwedigaethau ei haelodau lleyg a’i chlerigwyr. Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i:-

  • Sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i gymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd yr Eglwys yng Nghymru.
  • Hybu dealltwriaeth o faterion cydraddoldeb yn yr Eglwys yng Nghymru a’r gymuned ehangach.
  • Sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i gael gwaith gan y Corff Cynrychiadol a chyflogwyr neu asiantaethau eraill o fewn yr Eglwys yng Nghymru.
  • Sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i fod yn rhan o’r broses o ddethol a hyfforddi pobl i’w hordeinio neu i ymuno â’r weinidogaeth leyg.
  • Sicrhau bod pawb yn cael yr un cyfle i ymuno â’r Corff Llywodraethu, y Corff Cynrychiadol a phwyllgorau a byrddau eraill yr Eglwys yng Nghymru.
  • Sicrhau bod pob clerigwr a lleygwyr hyfforddedig yn cael yr un cyfle i fanteisio ar hyfforddiant ac addysg weinidogol barhaus.

Yn ôl y gyfraith, caiff yr Eglwys yng Nghymru (a chymunedau ffydd eraill) wahaniaethu mewn rhai amgylchiadau pe baent, fel arall, yn peri tramgwydd i leiafrif sylweddol o’u haelodau. Yn y cyd-destun hwn, bydd yr Eglwys yng Nghymru, cyhyd ag y bo’n rhesymol iddi wneud hynny, a chyhyd ag y bo’r gyfraith yn caniatáu, yn:

  • Cymryd camau pendant i unioni unrhyw anghydraddoldeb sy’n wynebu grwpiau lleiafrifol yn yr Eglwys yng Nghymru.
  • Hyrwyddo cyfle cyfartal ym mhob penderfyniad perthnasol ynghylch polisïau, gan gynnwys dyrannu adnoddau.
  • Ceisio gwrthweithio effeithiau gwahaniaethu drwy’r iaith a’r delweddau y bydd yn eu defnyddio.
  • Adolygu arfer, polisïau a gweithdrefnau’n gyson i sicrhau nad yw grwpiau lleiafrifol yn cael eu trin yn llai ffafriol.
  • Annog ei holl aelodau, a phawb sy’n gweithio iddi neu’n gweithredu ar ei rhan, i weithio tuag at ddileu arfer ac agweddau y gellid ystyried eu bod yn gwahaniaethu.

Bydd Corff Llywodraethu’r Eglwys yng Nghymru yn monitro sut y caiff y polisi hwn ei chymhwyso a bydd yn annog ei swyddogion i gymryd camau pendant i unioni’r sefyllfa os yw’n ymddangos nad yw’r polisi’n cael ei rhoi ar waith yn effeithiol.

DIOGELU PLANT ac OEDOLION AGORED I NIWED

Rydym wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu aelodau o’r gymdeithas sy’n agored i niwed ac rydym wedi llofnodi cod ymarfer a pholisïau diogelu’r Eglwys yng Nghymru:

https://www.churchinwales.org.uk/en/faith/healing/guidelines-good-practice/

http://www.churchinwales.org.uk/structure/representative-body/hr/safeguarding/