Tîm ardal genhadu Elwy

Mae Ardal Genhadu Elwy yn cynnwys yr Eglwys a Chadeirlan Llanelwy; ac, fel sy’n digwydd mewn ardaloedd cenhadu eraill, llwyddwyd nid yn unig i ddatblygu tîm cyffredin o weinidogion – clerigol a lleyg, ond hefyd i greu cyfleoedd i gydweithio a chydymdrechu gan rannu’r un penderfyniad a’r weledigaeth ac, yn bwysicach fyth, i gyflwyno cenhadaeth Duw. Er mwyn bwrw ymlaen yn ddiflino â’n cenhadaeth, gadewch i ni lynu wrth yr hyn ddywedodd Iesu yn Mathew 10.8 – ‘derbyniasoch heb dâl, rhowch heb dâl.’

Y Tra Pharchedig Nigel H. Williams –

Penodwyd y Tra Pharchedig Nigel Williams yn Ddeon Cadeirlan Llanelwy ddydd Sadwrn 17 Medi 2011.

Ganed Nigel, sy’n siarad Cymraeg yn rhugl, yn Llanelwy ac fe’i magwyd yn Llansannan cyn iddo hyfforddi am yr offeiriadaeth yng Ngholeg San Mihangel, Llandaf a Phrifysgol Cymru, Caerdydd.

Fe’i hordeiniwyd yng Nghadeirlan Llanelwy yng nghanol y 1990au a chyn ei weinidogaeth ym Mae Colwyn, gwasanaethodd ym mhlwyf Dinbych a Nantglyn a phlwyf Llanrwst a Llanddoged. Rhwng 2004 a 2009, gwasanaethodd fel Deon Ardal Rhos.

Y Parchedig Ganon Rex Matthias 

Y Parchedig Ganon Michael Balkwill –

Ordeiniwyd y Parchedig Michael Balkwill yng Nghadeirlan Llanelwy ym 1991. Ar ôl cyfnod nodedig mewn gweinidogaeth plwyf yn yr esgobaeth pan fu’n gwasanaethu am 14 o flynyddoedd yn Sir Drefaldwyn, gan gynnwys fel Deon Ardal Llanfyllin, dychwelodd Michael i Lanelwy yn 2011 pan cafodd ei benodi’n Gaplan i’r Esgob.

Y Parchedig Ddr Sally Harper –

Ordeiniwyd Sally yn ddiacon ym mis mehefin 2020 ac mae’n siarad Cymraeg yn rhugl. Bydd yn helpu’n rheolaidd gyda gwasanaethau ac yn pregethu yn eglwys y plwyf a’r gadeirlan. Bydd hefyd yn rhoi cymorth ychwanegol drwy ei gwaith dysgu a’i gwaith bugeiliol.  Ochr yn ochr â hyn, mae ganddi weinidogaeth brysur gyda’r Tîm Allgymorth yng Nghanolfan Ysbrydolrwydd Jeswitiaid Beuno Sant, Tremeirchion, ac fel cyfarwyddwr ysbrydol trwyddedig. Mae’n ymddiddori ers cryn amser mewn cerddoriaeth a litwrgi Cristnogol yn yr eglwys ganoloesol a’r eglwys gyfoes, yn enwedig yng Nghymru.

CHURCHWARDENS

Clive Hughes                 Contact: M. 07974 269689

Janet Cameron            Contact: T. 01745 583770

WARDEINIAID YR EGLWYS

Clive Hughes                 Rhif ffôn symudol 07974 269689

Janet Cameron              Rhif ffôn: 01745 583770